Edrychwch i’r tir,
Dyma eich cynefin,
Eich cysylltiad efo’r hen ganrifoedd.
Mae’n lle i’r enaid gael llonydd,
I’r meddyliau cael gorffwys.
Gwelwch y llyn llwyd,
Clywch y llwynog yn symud,
Teimlwch gerrig oer y clogwyn,
Anadlwch yr awyr iach yn ddwfn.
Dyma eich cynefin,
Eich treftadaeth,
Eich rhyddud